BBC Cymru Fyw

Abertawe 2-4 Manchester City

Published
image copyrightGetty Images
image captionYaya Toure yn sgorio dwy yn erbyn Abertawe

Mae Manchester City wedi cadarnhau eu lle yng nghynghrair y pencampwyr ar ôl curo Abertawe yn stadiwm Liberty.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl yn yr hanner cyntaf.

Fe wnaeth camgymeriad Fabiansky helpu Yaya Toure sgorio'r gôl gyntaf, cyn i James Milner ychwanegu un arall i City.

Fe darodd Gylfi Sigurdsson 'nol cyn yr egwyl cyn uchafbwynt y gêm i gefnogwyr Abertawe, wrth i Gomis sgorio ail gol Abertawe.

image copyrightGetty Images
image captionGomis yn codi gobeithion cefnogwyr Abertawe

Am gyfnodau, ymdrechion y golgeidwad Jo Hart oedd yn gyfrifol am gadw amddiffyn Man City yn gadarn.

Ond fe ychwanegodd Toure ei ail gol cyn i Bony ymddangos o'r fainc a sgorio gôl olaf yr ymwelwyr.

image copyrightGetty Images
image captionBony yn sgorio yn erbyn ei hen dîm

Roedd Fabiansky yn gyfrifol am sawl arbediad gwych yn ogystal â'i gamgymeriad cynnar.

Roedd hi'n ddiweddglo llawn cyffro, ond siomedig, i dymor llwyddianus Abertawe yn stadiwm Liberty.