Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cyngor ar osgoi dementia
- Published
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi cyngor ar sut i leihau'r risg o ddementia.
Fe gyhoeddwyd y canllawiau ganddo ar ddechrau wythnos o weithgareddau yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r salwch.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn rhoi pwyslais cynyddol ar geisio lleihau'r achosion o ddementia, sy'n debyg o gynyddu yng Nghymru wrth i oedran y boblogaeth gynyddu ar gyfartaledd.
Yn ôl y gweinidog, fe ellir lleihau'r risg o ddatblygu dementia trwy ddilyn y camau sylfaenol yma:
- Gwnewch ymarfer corff;
- Gwyliwch eich pwysau;
- Byddwch yn gymdeithasol;
- Peidiwch ag yfed gormod o alcohol;
- Rhowch y gorau i ysmygu;
- Gwnewch addewid i gadw llygad ar eich iechyd.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r camau hyn yn rhai rhwydd a synhwyrol y gall pobl eu cymryd i leihau eu risg o ddementia, ond hefyd y risg o ganser, clefyd y galon, strôc a diabetes.
"Gall y risg fod hyd at 60% yn is os byddwch yn dechrau byw'n fwy iach.
"Mae'r canllaw newydd yn rhoi cyngor am ble i gael cymorth i gefnogi'r newidiadau hyn, a'r newyddion da yw bod y camau hyn yn hawdd i'w cyflawni - mae angen i ni wneud ymarfer corff a bod yn gymdeithasol, gwylio'n pwysau, osgoi yfed gormod o alcohol a pheidio â smygu.
"Felly mae'r neges yn glir - peidiwch ag oedi; gwnewch rywbeth nawr. Dyw e hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i leihau eich risg o ddementia. Mae unrhyw beth sy'n dda i'r galon yn dda i'r ymennydd."