Achub dyn o dân ym Mlaenau Ffestiniog
- Published
Mae dyn wedi cael ei gymryd i'r ysbyty o ganlyniad i anadlu mwg ar ôl cael ei achub o dân mewn tŷ yng Ngwynedd yn oriau cynnar bore Llun.
Fe gafodd ddynes ei thrin gan barafeddygon hefyd ar ôl y digwyddiad ar Stryd Fawr Blaenau Ffestiniog.
Fe wnaeth hi ddianc o'r tân ar ôl clywed y larwm tân, meddai Gwasanaeth Tân y Gogledd.
Dynion tân achubodd y dyn, ac mae ymchwiliad wedi ei lansio i achos y tân.