Gosod carreg ar fedd merch fach wedi 38 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Robin Hughes a'r garreg fedd
Disgrifiad o’r llun,
Mae Robin Hughes wedi cael dychwelyd i Dde Affrica bron 40 mlynedd wedi marwolaeth ei ferch

Mae dyn o Gonwy wedi dychwelyd i Dde Affrica i osod carreg ar fedd ei ferch fach bron bedwar degawd wedi ei marwolaeth.

Fe gollodd Robin Hughes ei ferch Kathleen yn 1976 pan oedd hi'n dri diwrnod oed.

Pan fu farw'n annisgwyl, nid oedd ganddo'r arian i dalu am garreg fedd i'w choffáu, a bu'n rhaid iddo ei chladdu mewn bedd heb gofnod arno.

Ond yn 2014 fe wnaeth pobl yng Nghonwy gynnal apêl gymunedol, gan godi £2,500 er mwyn i Mr Hughes ddychwelyd i Dde Affrica a gosod carreg ar ei bedd.

Dywedodd Mr Hughes: "Mae'n swnio'n rhyfedd, ond mae'n achlysur hapus. Rwyf wedi bod eisiau gwneud hyd ers 38 o flynyddoedd, ond nes i erioed feddwl y byddwn i'n medru gosod carreg ar fed Kathleen.

"O'r diwedd rwy'n medru cau'r bennod yma yn fy mywyd."

Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Kathleen Hughes yn annisgwyl yn dridiau oed

Cafodd Kathleen ei geni ar 16 Medi, 1976, pan oedd Mr Hughes yn gweithio yn Newcastle yn nhalaith KwaZulu-Natal lle'r oedd wedi symud i chwilio am waith. Bu farw dridiau'n ddiweddarach.

Nid oedd Mr Hughes wedi sôn wrth unrhyw un yng Nghymru am y drasiedi rhag ofn y bydden nhw'n meddwl ei fod yn chwilio am gydymdeimlad.

Ond fe soniodd am y peth wrth Julie Mills - cyfaill agos iddo yng Nghonwy - y llynedd, ac fe drefnodd hi'r apêl i godi arian er mwyn iddo ddychwelyd i Dde Affrica.

Disgrifiad o’r llun,
Nid oedd Mr Hughes wedi sôn am farwolaeth ei ferch wrth unrhyw un yng Nghymru tan y llynedd

Fe gafodd gymorth gan bapur newydd y Newcastle Advertiser yn Ne Affrica i ddod o hyd i'r bedd, a phan glywodd pobol yr ardal honno am stori Mr Hughes roedden nhw'n fwy na pharod eu cymwynas hefyd.

Dywedodd un o'r newyddiadurwyr, Kyle Cowan: "Roedd stori Robin wedi cyffwrdd â chalonnau pobl yma hefyd, a phan glywodd pobl y dre fe ddaeth cynigion am gymorth.

"Fe wnaeth yr engrafwr y gwaith ar y garreg fedd yn rhad ac am ddim hefyd."