Arolwg: Mwyafrif o blaid rhoi gynnau i'r heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae arolwg barn ar-lein wedi dangos bod y mwyafrif o bobl eisiau i Heddlu Dyfed-Powys gael yr hawl i gario gynnau tra ar "ddyletswyddau pob dydd".
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys Christopher Salmon am gael barn pobl ar y mater, felly gofynnodd y cwestiwn mewn holiadur ar lein.
O'r 7,706 o ymatebion, fe ddywedodd 61% eu bod o blaid rhoi'r hawl i'r heddlu gario gynnau o ddydd i ddydd.
Wedi cyhoeddi'r canlyniadau, dywedodd Mr Salmon ei fod yn falch ei fod wedi gwneud yr arolwg, gan fod yr ymateb yn dangos bod diddordeb gan y cyhoedd ar y pwnc.
Ond er y canlyniadau, dywedodd mai dim ond ymgynghoriad ar-lein oedd hwn, a na fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail yr arolwg. Byddai'n rhaid i arolwg cyhoeddus gael ei wneud cyn unrhyw ymgynghori pellach.
Fe ddaw holiadur Mr Salmon ar ôl i Heddlu'r Alban benderfynu y dylai'r heddlu ddim ond fod â gynnau yn eu meddiant mewn digwyddiadau penodol, lle bod amheuaeth fod gynnau'n cael eu defnyddio.
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2015