Darganfod corff myfyriwr Prifysgol Caerdydd mewn neuadd

Prifysgol Caerdydd
Image caption Cafodd y myfyriwr ei ddarganfod yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd

Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi ei ddarganfod yn farw mewn neuadd breswyl yn y brifddinas.

Cafodd corff y dyn 20 oed ei ddarganfod yn ei lofft yn neuadd Talybont ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad yw'r farwolaeth yn amheus, a bod y crwner wedi cael gwybod.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Rydyn ni'n cydymdeimlo gyda theulu'r myfyriwr yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.

"Mae ffrindiau'r myfyriwr a staff y brifysgol sydd wedi eu heffeithio yn cael cefnogaeth gan staff proffesiynol."