CityJet yn tynnu'n ôl o Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CityJet

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau na fydd cwmni awyrennau CityJet yn parhau i gynnal teithiau o Gaerdydd.

Bydd gwasanaethau CityJet i Gaeredin a Pharis yn dod i ben ar 29 Mehefin.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Debra Barber, ei bod yn "naturiol yn siomedig" gyda'r penderfyniad.

Ychwanegodd y byddai'r maes awyr yn parhau i gynnal teithiau i Gaeredin a Pharis i deithwyr busnes a hamdden, a hefyd yn denu ymwelwyr i Gymru.

Dywedodd CityJet eu bod yn tynnu'n ôl wedi i'r maes awyr benderfynu cefnogi cwmni awyrennau arall sy'n cynnal yr un teithiau.

Dywedodd Cathal O'Connell, Prif Swyddog Masnachol CityJet: "Gallwn ddeall dymuniad y maes awyr i adeiladu ei rwydwaith.

"Ond gallwn ni ddim derbyn Maes Awyr Caerdydd yn denu cwmni arall i gynnal gwasanaeth ar nifer o deithiau sydd eisoes yn cael eu cynnig gan CityJet o Gaerdydd."

Ychwanegodd: "Nid yw cystadleuaeth yn broblem, ond dylai cystadleuaeth fod yn deg ac nid un lle mae maes awyr yn amlwg yn ffafrio un cwmni dros eraill."

Dylai unrhyw un sydd wedi talu am daith ar ôl 29 Mehefin gysylltu gyda'r cwmni.