£108 miliwn i wella cyflwr tai cymdeithasol
- Cyhoeddwyd

Bydd dros £100 miliwn yn cael ei wario ar wella tai cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl y llywodraeth.
Fe fydd yr arian ar gael i gynghorau a chymdeithasau tai er mwyn gwella cyflwr tai a chreu swyddi.
Mae gan y llywodraeth darged pum mlynedd er mwyn gwella cyflwr 200,000 o gartrefi cymdeithasol ac mae targedau hefyd er mwyn gwella diogelwch tai.
Fe allai'r gwaith hwn gynnwys cael gwared ar hen foeleri, a darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd.
Yn ôl y llywodraeth mae dwy ran o dair o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru - bron i 150,000 o dai - eisoes yn cwrdd â'r targedau sydd wedi eu gosod ar gyfer 2020.
Mae'r Gweinidog Tai Lesley Griffiths wedi datgan ei bwriad o ddileu'r mesur 'Hawl i Brynu' yng Nghymru. Ei nod yw diogelu'r stoc dai sy'n eiddo i awdurdodau lleol.
"Mae buddsoddiad mewn cartrefi pobl yn cael dylanwad pellgyrhaeddol, mae'n elfen holl bwysig er mwyn gwella cyflwr y genedl a chreu swyddi a chyfleodd hyfforddi," meddai.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mwy na £400miliwn mewn tai fforddiadwy.