Arweinydd seneddol newydd i Blaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards

Mae Jonathan Edwards, aelod seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi ei ethol yn arweinydd seneddol newydd Plaid Cymru.

Mae Mr Edwards yn gafael yn yr awenau ar ôl i'w ragflaenydd Elfyn Llwyd ymddeol cyn yr etholiad cyffredinol. Roedd disgwyl i'r arweinyddiaeth fynd i Hywel Williams AS, ond fe benderfynodd Mr Williams beidio â derbyn y cyfrifoldeb am resymau teuluol.

Mae Jonathan Edwards yn dweud ei fod yn bwriadu canolbwyntio ar dair agwedd wleidyddol benodol, sef cynlluniau'r llywodraeth Geidwadol i ddiddymu'r Ddeddf Iawnderau Dynol, y refferendwm posib ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, a rhagor o ddatganoli i Gymru.

Gyda dim ond tri aelod seneddol i Blaid Cymru yn San Steffan, a chenedlaetholwyr yr SNP yn yr Alban gyda 56 aelod, fe fydd hefyd yn wynebu'r sialens o sicrhau fod llais ei blaid yn cael ei chlywed yn y senedd.