Phil Bale yn cadw ei swydd fel arweinydd Cyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Sir fwyaf Cymru wedi ennill pleidlais yn erbyn ei arweinyddiaeth.
Llwyddodd Phil Bale, arweinydd Cyngor Caerdydd, i gael ei ailethol fel arweinydd y grŵp Llafur.
Yr wythnos diwethaf fe fethodd a sicrhau mwy o bleidleisiau na'i wrthwynebydd, y cynghorydd Lynda Thorne.
Dywedodd y cynghorydd Bale wrth BBC Cymru ei fod yn hapus gyda'r canlyniad "ac yn edrych ymlaen yn eiddgar am ddyfodol cyffrous i'r ddinas."
Daeth buddugoliaeth y cynghorydd Bale ar ôl cyfnod anodd.
Bu cryn wrthwynebiad i'r gyllideb ar gyfer 2015/16, oedd yn cynnig arbedion o £40 miliwn. Roedd nifer o fewn y grŵp Llafur yn anhapus gyda thoriadau i wasanaethau'r cyngor hefyd.
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale yn wynebu brwydr wleidyddol nos Lun wrth iddo geisio cael ei ethol yn arweinydd y grŵp Llafur.
Wythnos yn ôl, roedd pleidlais gyfartal ar gyfer yr arweinyddiaeth rhwng Mr Bale a chynghorydd Grangetown Lynda Thorne.
Disgwylir i'r grŵp Llafur gwrdd unwaith eto nos Lun er mwyn cynnal pleidlais arall.
Mae Mr Bale wedi bod yn ffigwr dadleuol yn y brifddinas ers iddo gyflwyno cyllideb - a thoriadau - ar gyfer gwasanaethau lleol Caerdydd.
Fe wynebodd bleidlais o ddiffyg hyder ym mis Mawrth, ac er iddo ennill y bleidlais mae'r frwydr i'w ddisodli yn parhau.
Mae'r gwrthbleidiau a sawl aelod o'r blaid Lafur wedi dweud y dylai ymddiswyddo.
Dywedodd Mr Bale ei bod yn "benderfynol i sefyll yn gadarn" ac na fyddai yn "iselhau i'r lefel o wneud ymosodiadau personol".
Mae undeb UNSAIN, sydd yn cynrychioli gweithwyr y cyngor wedi dweud y dylid datrys y mater.
Dywedodd llefarydd: "Mae'n ymddangos fod y grŵp Llafur yn 'rhwygo ei gilydd yn ddarnau'."