Criced: Rudolph i'r adwy
- Published
Fe wnaeth Jacques Rudolph fatio drwy'r diwrnod gan sicrhau bod Morgannwg yn parhau yn y gêm yn erbyn Essex.
Fe wnaeth y glaw amharu ar y chwarae gyda'r gêm yn dechrau am 13:40.
Disgynnodd y wicedi cyntaf yn gyflym cyn ymddangosiad Rudolph (81 heb fod allan).
Fe ddiweddodd y dydd mewn partneriaeth gyda Graham Wagg 17, gan ddod a chyfanswm Morgannwg i 187-5.