Deepcut: Cynnal cwest 'heb unrhyw oedi'
- Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad arbennig yn Llys Crwner Woking i achos milwr ifanc o Langollen fu farw ym Marics Deepcut, Surrey, 20 mlynedd yn ôl, wedi clywed y bydd cwest i'w marwolaeth yn cael ei gynnal "heb unrhyw oedi".
Mae'r adolygiad ddydd Mawrth wedi'i gynnal cyn y cwest i farwolaeth y Preifat Cheryl James, ac ni fydd y cwest hwnnw yn cael ei gynnal ar yr un pryd â'r cwestau i farwolaethau milwyr eraill.
Mae disgwyl i'r cwest gael ei gynnal ym mis Chwefror 2016.
Dywedodd y crwner, Brian Barker QC, y byddai'r cwest yn ystyried sawl mater, gan gynnwys a oedd trydydd parti wedi chwarae rhan yn y farwolaeth ac a oedd unrhyw ddiffygion yn y system ym Marics Deepcut allai fod wedi chwarae rhan yn y farwolaeth.
Yn ogystal bydd yn rhoi ystyriaeth benodol i bolisi'r barics yn ymwneud ag milwyr unigol yn gweithio ar ddyletswydd gwarchod, y gefnogaeth i filwyr benywaidd a diogelwch cyffredinol y barics.
Ystyried codi corff
Ni chafwyd penderfyniad yn y gwrandawiad ynglŷn â chodi cyrff, gyda'r crwner yn dweud ei fod yn disgwyl am adroddiad gan arbenigwr cyn penderfynu a fyddai hynny'n angenrheidiol ai peidio.
Dywedodd Des James, tad Cheryl James, ei fod yn siomedig nad oedd unrhyw benderfyniad eto ynglŷn â datgladdu ei ferch cyn bod cwest newydd. Dywedodd bod angen cynnal profion pellach ar ei ferch.
Mae disgwyl i wrandawiad cyn-gwest arall gael ei gynnal ym mis Medi 2015.
Cafwyd hyd i gorff Cheryl James, 18 oed, yn 1995 ac fe gofnodwyd rheithfarn agored yn y cwest gwreiddiol i'w marwolaeth.
Fe enillodd ei rhieni gais am gwest newydd y llynedd.
Roedd hi'n un o bedwar i farw yn Deepcut dros gyfnod o wyth mlynedd.