BBC Cymru Fyw

Tân Cwmbrân: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

Published
image captionCafodd pobl eu symud o'r fflatiau eraill cyfagos
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi marwolaeth dynes mewn tân difrifol yng Nghwmbrân.
Bu farw Samantha Thomas, 29 oed, yn y digwyddiad mewn tŷ ar Heol Shakespeare yn ardal St Dials y dref fore Mawrth.
Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 49 oed o Gwmbrân, gafodd ei gymryd i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn dilyn y digwyddiad, wedi cael ei arestio yn ddiweddarach.
Roedd y tŷ gafodd ei effeithio yn un o nifer o fflatiau a dywedodd yr heddlu bod pobl wedi eu symud o'r fflatiau eraill.
Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ar y cyd gan y gwasanaeth tân a'r heddlu.
image copyrightTom Martin/Wales News Service
image captionBu farw Samantha Thomas yn y tân ar Heol Shakespeare yng Nghwmbrân