Cymeradwyo lagŵn slyri yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i adeiladu lagŵn slyri yn Sir Benfro fydd yn gallu dal hyd at 7000 metr ciwbig o wastraff anifeiliaid, wedi'i gymeradwyo gan y cyngor.
Cafodd y cais i adeiladu'r lagŵn ar Fferm Felindre, St Nicholas, ei gymeradwyo er gwaethaf ymgyrch yn ei erbyn gan bobl leol.
Roedd cais blaenorol am ganiatâd cynllunio gan Daniel Harries wedi'i wrthod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mis Ionawr, ond roedd y cais diweddaraf i Gyngor Sir Penfro yn disgyn tu allan i ffiniau'r parc cenedlaethol.
Dywedodd Mr Harries wrth y cyfarfod mai ef oedd y bedwaredd genhedlaeth i ffermio yn Felindre, a bod angen cynyddu'r gallu i storio slyri oherwydd cynnydd yn nifer y gwartheg ar y fferm, ac er mwyn cyd-fynd â rheolau.
Mae Mr Harries yn gobeithio cynyddu nifer y gwartheg ar y fferm i dros 800.
Cafodd y cais ei gymeradwyo o saith bleidlais i un, er gwaethaf pryderon lleol ynglŷn ag effaith yr arogl a nwyon o'r lagŵn.