Ceisio llofruddio plant: Barnwr yn crynhoi'r achos
- Cyhoeddwyd

Mae'r barnwr yn yr achos yn erbyn dynes o Gasnewydd, sydd wedi'i chyhuddo o geisio llofruddio dau o blant, wedi cychwyn crynhoi'r achos.
Clywodd y llys yn gynharach ddydd Mawrth bod Sadie Jenkins, 28 oed, wedi ymosod ar y plant oherwydd ei bod hi'n credu eu bod dan fygythiad gan y maffia.
Mae Ms Jenkins, sy'n ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd, yn gwadu dau gyhuddiad o geisio llofruddio.
Yn ystod araith gloi fer, dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Paul Lewis QC, bod y diffynnydd yn derbyn ei bod yn ceisio lladd y plant.
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, Patrick Harrington QC: "Nid yw hwn yn achos o euog neu ddieuog. Mae'n achos o euog neu ddieuog o ganlyniad i wallgofrwydd."
Ychwanegodd: "Os bu rhybudd yn erbyn y peryglon o gymryd cyffuriau erioed, dyma fo."
Dywedodd y barnwr, Ms Ustus Carr "nad oedd anghytuno" ynglŷn â'r ffaith bod y diffynnydd wedi anafu'r plant.
Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r rheithgor benderfynu a oedd Sadie Jenkins yn dioddef o salwch meddwl wedi'i achosi gan ei defnydd blaenorol o gyffuriau oedd yn golygu nad oedd hi'n gwybod bod yr hyn wnaeth hi'n anghywir yn gyfreithiol neu'n foesol, ai peidio.
Seicotig
Yn gynharach ddydd Mawrth, clywodd y llys bod Ms Jenkins yn seicotig, a heb unrhyw gyswllt â'r gwirionedd pan wnaeth hi ymosod ar y plant gyda chyllell ar 7 Mai 2014.
Clywodd y llys dystiolaeth gan y seiciatrydd fforensig ymgynghorol, Dr Phillip Joseph, wnaeth ddweud bod Ms Jenkins yn "dioddef o resymu diffygiol, roedd hi'n gwybod beth roedd hi'n wneud, ond nid oedd hi'n gwybod bod hynny'n anghywir."
Dywedodd bod Ms Jenkins yn dioddef o rithdybiaethau, gan gredu bod y plant yn wynebu "bygythiad sylweddol", ac y bydden nhw'n cael eu harteithio a'u lladd gan rywun fel y maffia.
Dioddefodd y ddau blentyn anafiadau i'w gyddfau a bu'n rhaid iddyn nhw gael llawdriniaeth frys.
Clywodd y rheithgor bod Ms Jenkins wedi "ysmygu canabis yn rheolaidd ers ei harddegau", ond mai amffetamin oedd ei "phrif gyffur". Dywedodd Dr Joseph wrth y llys bod defnydd cyson o amffetamin yn gallu achosi cyflwr seicotig.
Mi wnaeth Dr Joseph ddarllen rhan o gyfweliad gyda'r diffynnydd. Yn y cyfweliad dywedodd Miss Jenkins ei bod wedi "gafael yn y gyllell fwyaf miniog oherwydd fy mod i eisiau iddo ddigwydd yn gyflym ac yn hawdd."
Dywedodd: "Roeddwn i'n meddwl, maen nhw ar eu ffordd, maen nhw am ein harteithio a'n lladd ni".
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Paul Lewis, ei bod hi wedi dewis y gyllell fwyaf miniog oherwydd ei bod hi'n bwriadu lladd y plant.
Mae Sadie Jenkins yn gwadu dau gyhuddiad o geisio llofruddio, ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2015
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2015