Dim sail i honiadau o 'ymddygiad annerbyniol' yn erbyn cyn bennaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad wedi penderfynu nad oedd sail i honiadau o "ymddygiad annerbyniol" yn erbyn cyn bennaeth ysgol.
Clywodd y panel honiadau fod athrawon cynorthwyol wedi bod yn feddw ar drip ysgol i Eisteddfod yr Urdd.
Roedd Alan Howells, cyn Bennaeth Ysgol y Gogarth, Llandudno, yn gwadu nad oedd wedi delio â'r honiadau ar ôl y trip yn 2007.
Dywedodd wrth y Cyngor Addysgu Cyffredinol fod ymddygiad y pedwar athro wedi ei "ddychryn".
Fe benderfynodd y cyngor yng Nghaerdydd nad oedd y ffeithiau wedi eu profi.
Mr Howells oedd y pennaeth rhwng 2004 a 2009.
Roedd wedi ei gyhuddo o beidio â chofnodi honiadau'n llawn, ceisio dylanwadu ar banel disgyblu, a pheidio â dilyn canllawiau amddiffyn plant.
Hefyd roedd honiad nad oedd wedi ymateb i gwynion rhieni'n briodol.