Gwaith carthu harbwr y Rhyl yn dechrau
- Published
Bydd gwaith carthu harbwr Y Rhyl, sy'n rhan o raglen gynnal a chadw blynyddol, yn dechrau ddydd Mercher.
Yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Sir Ddinbych i Adnoddau Naturiol Cymru am drwydded forwrol i garthu, bydd gwaith yn dechrau i dynnu tua 22,000 tunnell o ddeunydd o'r harbwr.
Fe fydd contractwyr yn gweithio tair awr pob ochr i'r llanw isel pob dydd, a bydd tri cherbyd tipio yn cael eu defnyddio i gludo'r deunydd oddi ar y safle.
Mae 10 o gychod pysgota yn gweithredu o'r harbwr ar hyn o bryd, a 30 o gychod hwylio neu gychod modur eraill yn angori yn yr harbwr mewnol.
Dywedodd y cynghorydd Huw Jones, aelod gyda chyfrifoldebau dros dwristiaeth, ieuenctid a hamdden: "Mae carthu yn hanfodol i sicrhau fod harbwr Y Rhyl yn addas i'r diben, ac mae llawer o fanteision hirdymor yn gysylltiedig â chynnal sianeli mordwyol.
"Mae bywoliaeth perchnogion cychod masnachol yn dibynnu'n helaeth ar gynnal a chadw'r harbwr. Ers gorffen adfywio'r harbwr yn 2014, mae nifer y defnyddwyr wedi cynyddu'n sylweddol ac mae'r pwysau a'r galw i gynnal y sianeli hefyd wedi cynyddu."