Dwy ddynes wedi eu hachub o dân yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Gogledd PenralltFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymchwiliad wedi ei lansio i achos y tân ar Ffordd Gogledd Penrallt, Caernarfon

Mae dwy ddynes wedi cael eu cymryd i'r ysbyty ar ôl cael eu hachub o dân mewn tŷ yng Nghaernarfon yn oriau cynnar dydd Mercher.

Mae ymchwiliad wedi ei lansio i achos y tân ar Ffordd Gogledd Penrallt, gafodd ei gynnau am 04:30.

Fe gafodd y ddwy ddynes, 27 a 65 oed, eu gwneud yn ymwybodol i beth oed yn digwydd gan y larwm tân, ac fe'u hachubwyd nhw gan y gwasanaethau brys o lawr cyntaf y tŷ.

Cafodd y ddwy eu cymryd i'r ysbyty mewn ambiwlans.