Ffilm yn rhoi gobaith newydd i'r Gyfnewidfa Lo

  • Cyhoeddwyd
Y Gyfnewidfa Lo
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adeilad rhestredig Gradd II wedi bod ar gau ers dwy flynedd

Gallai fersiwn newydd o ffilm 'The Crow', fydd yn cael ei ffilmio yn ne Cymru yn yr haf, helpu ailagor adeilad hanesyddol y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.

Mae'r adeilad wedi bod ynghau am ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei ddatgan yn anniogel.

Mae ymgyrchwyr wedi trefnu i beirianwyr i fwrw golwg ar y difrod o amgylch prif fynedfa'r adeilad, ble mae cynhyrchwyr y ffilm eisiau defnyddio fel lleoliad pan mae ffilmio yn dechrau ym mis Gorffennaf.

Dywedodd cyfarwyddwr elusen Save The Coal Exchange, Ian Hill, y byddai gwaith adfer yn galluogi i brif fynedfa, cyntedd a phrif neuadd yr adeilad i barhau i gael eu defnyddio ar ôl i'r gwaith ffilmio orffen.

"Rydyn ni'n cymryd y cyfle i wneud yn siŵr pan fo'r drws yn agor, ei fod yn aros ar agor," meddai.

"Fe fydd The Crow ar y safle am tua chwe wythnos. Pan fydden nhw'n gadael, rydyn ni'n gobeithio gallu cadw'r drws ar agor a galluogi i'r cyhoedd gael mynediad i'r cyntedd a'r brif neuadd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd: "Nid y Cyngor sy'n berchen ar y Gyfnewidfa Lo, felly mae beth allwn ni wneud wedi'i gyfyngu, ond rydym yn cynorthwyo Pinewood gyda'u syniad ar gyfer defnyddio rhan o'r Gyfnewidfa Lo fel lleoliad ffilmio."

£5m yn ddyledus

Dylai'r ffi sy'n cael ei dalu gan gynhyrchwyr y ffilm fod yn ddigon i wneud y fynedfa yn ddiogel.

Fe fydd The Crow yn cael ei ffilmio ar leoliad yn ne Cymru, ac yn stiwdio Pinewood Cymru yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Yr actor Brandon Lee yn y fersiwn wreiddiol o 'The Crow' - bu farw yn ystod ei ffilmio

Fe aeth perchnogion y Gyfnewidfa Lo i'r wal y llynedd, gyda thua £5m yn ddyledus i Gyngor Caerdydd a dau fanc.

Mae'r adeilad yn cael ei ystyried yn un o rai mwyaf arwyddocaol y brifddinas, a dyma'r man ble cafodd y siec £1m cyntaf ei harwyddo. Yn fwy diweddar, roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau ac fel swyddfeydd nes iddo gau yn 2013.

Mae trafodaethau wedi dechrau'n barod i drosglwyddo perchnogaeth y Gyfnewidfa Lo i'r elusen sy'n ymgyrchu i achub yr adeilad.

Pe bai'r gwaith cychwynnol i ailagor rhannau o'r adeilad yn llwyddiannus, y gobaith fyddai codi tua £15m i ariannu adferiad yr adeilad dros y tair neu bedair blynedd nesaf.