Tîm rygbi Ysgol Glantaf i chwarae yn Wembley
- Cyhoeddwyd
Rhodri Llwyd, Newyddion 9 fu'n holi Gwilym, Jac a Cai, a'u hathro chwaraeon Rhydian Garner
Mae tîm rygbi ysgol uwchradd o Gymru i chwarae yn Wembley a hynny ar ôl cyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth ysgolion rygbi'r cynghrair.
Fe wnaeth Ysgol Glantaf, Caerdydd, sicrhau eu lle yn Wembley gyda buddugoliaeth oddi cartref o 12-20 yn erbyn ysgol St Bernards, Cumbria nos Fawrth.
Er mai Glantaf yw pencampwyr Cymru yn y gamp, maen nhw wedi synnu timau o ogledd Lloegr ble mae'r gêm yn llawer mwy poblogaidd nag yng Nghymru.
Fe fydd tîm blwyddyn saith yr ysgol nawr yn wynebu Ysgol Wade Deacon o Widnes - un o gadarnleoedd y gêm - yn y ffeinal ar 29 Awst.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae cyn un o uchafbwyntiau'r gêm broffesiynol, sef ffeinal y Cwpan Her.