Meddyg yn ddieuog o ladd trwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Vincent HamlynFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Vincent Hamlyn wedi gwadu achosi marowlaeth drwy yrru'n beryglus

Mae meddyg wedi ei gael yn ddieuog o achosi marwolaeth beiciwr modur drwy yrru'n beryglus ar yr A449.

Bu car Dr Vincent Hamlyn mewn gwrthdrawiad â beic modur Kevin Morgan, 60 oed, ac fe gafodd Mr Morgan "anafiadau trychinebus" i'w ben, a bu farw.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod y ddau gerbyd yn "brwydro am y safle gorau" ger y goleuadau traffig, cyn "rasio" yn erbyn ei gilydd ar yr A449 tuag at Drefynwy.

Gwadu hynny wnaeth Dr Hamlyn, a dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd ei fod yn rhydd i adael y llys.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Kevin Morgan o Gwmbrân o anafiadau difrifol i'w ben