BBC Cymru Fyw

Cyngor Sir Gâr yn ethol cynghorydd Plaid yn arweinydd

Published
image captionDyma'r tro cyntaf i Plaid Cymru arwain y cyngor ers cread yr awdurdodau unedol newydd
Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr, Emlyn Dole, wedi cael ei ethol yn swyddogol i arwain y cyngor.
Fe wnaeth gynghorwyr Plaid a'r Grŵp Annibynnol gymryd rheolaeth o'r cyngor wythnos ddiwethaf.
Ond mae BBC Cymru ar ddeall bod cynnig munud olaf gan Llafur i greu clymblaid i reoli Cyngor Sir Gâr wedi cael ei wrthod gan Blaid Cymru.
Dywedodd Emlyn Dole, arweinydd grŵp Plaid Cymru, bod y cynnig wedi ei wneud yn hwyr nos Fawrth, oriau'n unig cyn i'r cyngor gwrdd i ethol arweinydd newydd.
Yn ôl Mr Dole roedd hynny yn "llawer rhy hwyr".

Gwrthod y cynnig

Fe wnaeth y Cynghorydd Calum Higgins, aelod o'r grwp Llafur, gadarnhau bod cynnig wedi ei wneud i Plaid Cymru, a bod hwnnw wedi ei wrthod.
Llafur oedd wedi arwain mewn clymblaid gyda'r Grŵp Annibynnol ers 2012.
Fe wnaeth cyn arweinydd y cyngor Kevin Madge, ymddiswyddo yr wythnos diwethaf, ar ôl i Lafur ei ddisodli fel eu harweinydd grŵp.
Fe wnaeth Llafur ddewis Jeff Edmunds fel eu harweinydd newydd.
Yn sgil hynny fe wnaeth y Grwp Annibynnol benderfynu clymbleidio gyda Plaid Cymru.
Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ar y cyngor gyda 29 sedd. Mae gan Lafur 22 aelod, a'r grŵp Annibynnol 21 aelod.
Dyma'r tro cyntaf i Plaid Cymru arwain y cyngor ers cread yr awdurdodau unedol newydd.