Milwr yn methu yn ei gais am £8m mewn iawndal
- Cyhoeddwyd
Mae milwr gafodd ei barlysu ar ôl plymio i ddŵr bas yn yr Ynysoedd Dedwydd wedi methu yn ei achos cyfreithiol i hawlio £8m mewn iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe dorrodd Spencer Vaughan, 27 oed o Gwmbrân, ei wddf yn y digwyddiad ar ynys Grand Canaria tra roedd ar ymarferiadau gyda'r Royal Marines ym mis Gorffennaf 2009.
Roedd yn honni ei fod yn ddyletswydd ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i'w rybuddio am y peryglon o blymio i'r môr yn yr ardal.
Ond yn dilyn achos wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Mr Justice William Davis benderfynu heddiw nad oedd sail i'w gais.
Canlyniad 'trychinebus'
Dywedodd y barnwr bod Mr Vaughan, sydd bellach yn byw yn Plymouth, wedi "camfarnu" y sefyllfa, gyda chanlyniadau "trychinebus".
Ynghynt, clywodd yr Uchel Lys yn Llundain bod y milwr wedi ei anafu wrth nofio gyda'i gyd-filwyr o uned gomando y Royal Marines ar draeth ar yr ynys.
Dywedodd Mr Vaughan ei fod wedi cerdded i'r môr i "oeri ei hun", ond fe ddioddefodd anafiadau difrifol i asgwrn ei gefn pan fu ei ben mewn gwrthdrawiad â thywod ar waelod y môr.
Roedd Mr Vaughan yn gwadu'r honiad iddo redeg i'r môr gan berfformio naid oedd yn debyg i symudiad oddi ar raglen 'Baywatch', ac mae'n mynnu iddo gerdded yn araf i'r dŵr er mwyn osgoi teulu ifanc.
Dyfarnwyd nad oedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrifol am ei anafiadau am nad oedd y ddamwain wedi digwydd fel rhan o'i gyflogaeth.
Ers y digwyddiad mae wedi hyfforddi fel hyfforddwr ffitrwydd, ac mae ar fin dechrau gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ers y digwyddiad mae wedi hyfforddi fel hyfforddwr ffitrwydd, ac mae ar fin dechrau gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Straeon perthnasol
- 12 Mai 2015