Saith diwrnod

Morys Gruffudd
Image caption Morys Gruffudd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd, yn brysur yn paratoi ar y maes

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Be fyddwch chi'n ei wneud nos fory?

Mae'n siŵr bydd cyfran dda o Gymry da'n paratoi at Eisteddfod yr Urdd.

Fe wyddom fod Morys Gruffydd wedi treulio wythnos brysur yn paratoi ar y maes yng Nghaerffili. Fel Trefnydd yr Eisteddfod bu'n rhannu hanes yr wythnos gyda Cymru Fyw, un rhuthr o gyfarfodydd, trefnu, gosod rhifau ar seddi, profi peiriannau, ymarfer a bod yn barod i ymateb ac addasu yn ôl y galw.

Siawns erbyn nos Sadwrn y bydd popeth yn ei le, a phwy a ŵyr na chaiff Morys gyfle i chwilio am deledu yn rhywle i ymuno â'r miliynau o gwmpas y byd fydd yn edrych ar gystadleuaeth yr Eurovision.

Image copyright Mary Jean O'Doherty
Image caption Mary-Jean O'Doherty, cantores opera o Awstralia sy'n byw yng Nghaerdydd, fydd yn cynrychioli Armenia yng nghystadleuaeth Eurovision

A rhag ofn eich bod heb benderfynu pa wlad i'w chefnogi eleni, mae Cymru Fyw a Golwg yn cynnig awgrym i chi - Armenia, ac yn benodol un o gantorion y grŵp Genealogy, Mary-Jean O'Doherty, cantores opera o Awstralia sy'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, y pianydd Caradog Williams.

A hithau'n flwyddyn nodi canmlwyddiant yr hil-laddiad yn Armenia, a'r gwasgaru a fu o ganlyniad i hynny, dewiswyd aelodau'r grŵp o blith pobl o dras Armenaidd o bedwar ban byd.

Ac i adlewyrchu'r amrywiaeth eang ymhlith yr aelodau, mae'r gân fydd i'w chlywed nos fory'n rhoi cyfle i bob elfen gerddorol o fewn y grŵp ddisgleirio - pop, roc, soul, gwerin Armenaidd a chanu clasurol.

Byddwch yn barod gyda'ch pleidlais!

Gwrando ar y bobl?

Ond tra bod llawer ohonon ni'n edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd a'r Eurovision, mae nifer o golofnwyr Cymru'n dal i fod yn edrych yn ôl ar yr Etholiad Cyffredinol.

Yn ôl Dylan Iorwerth yn Golwg, ar ôl cael cweir, bydd pleidiau gwleidyddol yn dweud yr un peth - rhaid i ni wrando ar y bobl.

Ystyr hynny fel rheol, meddai, ydi edrych ar y polau piniwn a gweld sut roedd y gwynt wedi chwythu yn ystod yr etholiad.

Ond yn ôl Dylan, peth peryglus ydi clywed gwleidyddion yn sôn yn ddifeddwl am newid cyfeiriad er mwyn rhoi i bobl yr hyn maen nhw eisiau - pe bai pob plaid yn gwneud hynny, fyddai yna ddim mymryn o wahaniaeth rhyngddyn nhw ac mi fydden ni'n dal i grogi pobl, ac mae'n holi siawns nad oes yna le o hyd i genhadaeth ac i agor ein llygaid ni i bosibiliadau eraill, gan greu'r awyrgylch a'r stori sy'n newid y polau piniwn.

Image copyright Getty Images
Image caption David Cameron yn mynd yr holl ffordd i'r Alban i drafod gydag arweinydd yr SNP

Mae Aled Sam wedi cael llond bol y gwleidyddion i gyd, ac yn ei gael ei hun yn defnyddio ymadrodd sy'n gyffredin mewn nifer o ardaloedd yn ne Cymru, ond sy'n perthyn i genhedlaeth a fu.

Heb iddo sylweddoli, mae wedi cyrraedd yr oed lle gall ddweud 'Oes colled arnat ti?'

Yr hyn a'i symbylodd i ebychu yn y fath fodd oedd gweld gwleidyddion UKIP yn dadlau ymhlith ei gilydd fel cathod a chŵn yn lle adeiladu ar y pedair miliwn o bleidleisiau gawson nhw yn yr etholiad, a gweld David Cameron yn mynd yr holl ffordd i'r Alban i drafod gydag arweinydd SNP, rhywbeth ddywedodd na fyddai byth yn ei wneud, ac wythnos ar ôl iddo fod yn ei galw hi'n bob enw dan haul.

Roedd Aled wedi gobeithio y byddai diwedd yr etholiad wedi rhoi terfyn ar y rantio, ond dyw e ddim.

Nid y nhw yn gymaint, ond Aled ei hun, sy'n taranu ar y sgrin fel tasa colled arno yntau.

Ond mae'n anodd anghytuno ag e bod 'eisiau shiglad dda a gwd shiglad arnyn nhw i gyd!'