Aberystwyth yn croesawu'r Pearl Izumi
- Published
Mae 'Tîm Wiggins' wedi cyhoeddi na fydd y pencampwr Olympaidd, Syr Bradley Wiggins, yn cystadlu yng Ngŵyl Seiclo Aberystwyth ddydd Gwener wedi'r cwbl.
Yn wreddiol roedd disgwyl i Syr Bradley fod ymysg 50 o seiclwyr proffesiynol o'r DU, fydd yn rasio yn yr unig gymal yng Nghymru ar gyfer cyfres y Pearl Izumi ddydd Gwener.
Bydd y brif ras yn dechrau am 19:30, a bydd 'Tîm Wiggins' yn parhau i gystadlu.
Mae disgwyl i tua 300 o blant ysgol gymryd rhan mewn digwyddiadau yng nghanol y dref i gydfynd â'r ras yn gynharach yn y dydd.
Dyma'r chweched flwyddyn i'r ŵyl seiclo gael ei chynnal yn Aberystwyth.
Bydd y brif ras yn dechrau ar Heol y Wig, gan fynd ar hyd y Stryd Fawr, Seaview Place, y Promenâd ac yn ôl i Stryd y Pier.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod cabinet Cyngor Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau hamdden, y byddai'r digwyddiad yn "gyfle gwych i arddangos Aberystwyth ar ei orau".