Carcharu dyn yn ei arddegau am ddyrnu dynes anabl
- Cyhoeddwyd

Mae dyn yn ei arddegau wedi ei garcharu am ddyrnu dynes sydd â sglerosis ymledol yn ei chartref ei hun ym Mro Morgannwg.
Roedd Siân Thomas yn gorwedd ar ei gwely yn ei chartref yn y Barri pan wnaeth Kyle Solowyk, 19 oed, lwyddo i ddod mewn i'w chartref, cyn ymosod arni.
Mi wnaeth Solowyk ddwyn cannoedd o bunnoedd o fag llaw Ms Thomas.
Fe blediodd Solowyk yn euog i gyhuddiadau o ladrad ac achosi niwed corfforol, ac fe'i anfonwyd i'r carchar am naw mlynedd yn Llys y Goron Caerdydd.
Dyrnu
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Jason Howells, bod Solowyk wedi honni ei fod angen defnyddio'r toiled pan dorrodd mewn i gartref Ms Thomas.
Yna aeth mewn i'r ystafell ymolchi, ble wnaeth Ms Thomas ei ddarganfod yn chwilio drwy ei thyweli a'i dillad. Mi wnaeth hi geisio ei dynnu allan o'r ystafell ymolchi, cyn iddo ymosod arni.
Dywedodd Mr Howells: "Fe wnaeth y diffynnydd ddyrnu Ms Thomas yn yr wyneb, gan achosi iddi ddisgyn ar y gwely.
"Fe wnaeth Solowyk ei chodi oddi ar y gwely, cyn ei tharo eto."
Yn ogystal, fe ddywedodd Ms Thomas bod Solowyk wedi sathru ar ei hystumog, a'i bod wedi mynd i Ysbyty Athrofaol Cymru am driniaeth.
Trosedd 'erchyll'
Dywedodd Stephen Thomas, yn amddiffyn: "Roedd hon yn drosedd ddifrifol. Roedd yn lladrad yn erbyn dynes fregus yn ei chartref, gan ddefnyddio trais.
"Mae'n edifeiriol iawn ac mae ganddo gywilydd am yr hyn ddigwyddodd."
Dywedodd y barnwr Philip Richards bod trosedd "erchyll".
Ychwanegodd: "Rydych chi wedi cydnabod bod hwn wedi bod yn ddigwyddiad annymunol, a hynny pan wnaethoch chi ddweud wrth awdur yr adroddiad cyn-dedfrydu 'mai hwn oedd y peth gwaethaf gallai rhywun wneud'."
Derbyniodd Solowyk ddedfryd o naw mlynedd o garchar am ladrad, ynghyd â dedfryd o dair blynedd a hanner am achosi niwed corfforol, y ddwy i redeg ar yr un pryd.
Fe fydd mwy o'r hanes ar Newyddion 9 nos Wener.