Cynllun trafnidiaeth am ddim i ysgolion ffydd i aros
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd yr achos ei gymryd i'r Uchel Lys gan Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
Mae penderfyniad cyngor i gael gwared ar drafnidiaeth am ddim i rai disgyblion ysgolion ffydd yn Abertawe wedi cael ei ddileu gan yr Uchel Lys.
Roedd cyngor Abertawe eisiau rhoi diwedd ar deithio am ddim pe bai ysgol gyffredin yn agosach i gartref disgybl.
Ond fe gafodd yr achos ei gymryd i'r Uchel Lys gan Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, darpar ddisgybl ac Esgobaeth Menevia sy'n cynnwys y ddinas.
Fe wnaeth Mr Ustus Wyn Williams wrthdroi penderfyniad y cyngor ddydd Gwener.
Mae gan Gyngor Abertawe 21 diwrnod er mwyn apelio'r penderfyniad.