Carchar iddyn am osgoi'r heddlu am 11 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn oedd â gobeithion o gynrychioli tîm marchogaeth Olympaidd Prydain wedi cael ei garcharu ar ôl osgoi'r heddlu am 11 blynedd.
Fe wnaeth John Anthony Barlow, 40 oed o'r Wyddgrug, adael carchar agored ar ganiatâd dros dro ym mis Mai 2004 ond fe fethodd â dychwelyd.
Cafodd ei ddal ym mis Ebrill wrth iddo gyfarfod ei ferch am y tro cyntaf. Nid oedd wedi bod yn ymwybodol mai fo oedd tad y ferch tan yn ddiweddar.
Fe gafodd ei garcharu am 12 mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Dan yr enw John Johnson, clywodd y llys ei fod yn seiciatrydd ceffylau ac yn neidiwr talentog. Er iddo fod yn cystadlu ar draws y DU, doedd erioed wedi gallu cystadlu tramor am nad oedd yn bosib iddo adael y wlad.
Mewn llythyr i'r barnwr Rhys Rowlands, dywedodd y diffynnydd ei fod wedi dewis peidio dychwelyd am iddo ofni ymosodiadau rhywiol yn y carchar.
Ond wrth ei garcharu, dywedodd y barnwr bod angen rhybuddio eraill rhag gwneud yr un peth, a bod angen cynnal hyder y cyhoedd yn y system o ryddhau carcharorion.
Clywodd y llys bod Barlow yn y carchar yn wreiddiol ar ddedfryd o bum mlynedd am anafu, a'i fod wedi bod adref am gyfnod ar ganiatâd dros dro pan fethodd â dychwelyd.