Apêl i rieni i rwystro tanau bwriadol dros y gwyliau
- Published
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi apelio i rieni i geisio rhwystro achosion o danau bwriadol dros y gwyliau ysgol.
Mae'r gwasanaeth yn dweud bod tywydd brafiach a gwyliau ysgol yn aml yn arwain at fwy o danau yn cael eu cynnau'n fwriadol.
Ym Mawrth ac Ebrill eleni cafodd 145 o danau bwriadol eu cynnal yng ngogledd Cymru.
Daw'r rhybudd wedi cyfnod prysur iawn i'r gwasanaethau brys yn ne Cymru, ar ôl cyfres o danau gwair mawr ar draws y rhanbarth.
'Dibynnu ar rieni'
Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn dweud bod gostwng nifer yr achosion wedi bod yn ymdrech gan sawl awdurdod.
Dywedodd Kevin Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydyn ni'n dibynnu ar rieni ac aelodau o'r gymuned i weithio gyda ni i barhau i ledu'r neges am ganlyniadau tanau bwriadol.
"Fe wnaethon ni weld cyfres o danau bwriadol dros wyliau'r Pasg ac i daclo'r broblem yma rydyn ni'n apelio eto i'r gymuned i helpu ni sicrhau bod cyn lleied o danau bwriadol dros wyliau'r Sulgwyn pan fydd plant ddim yn yr ysgol."
Ychwanegodd: "Mae fy apêl wedi ei anelu yn enwedig at rieni a gwarcheidwaid: byddwch yn ymwybodol o le mae eich plant a dangoswch iddyn nhw bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau."
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Ebrill 2015
- Published
- 30 Ebrill 2015