Rhys Williams yn cystadlu eto wedi gwaharddiad cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae athletwr o Gymru wedi dychwelyd i'r trac rasio ddydd Sadwrn, flwyddyn ar ôl cael ei wahardd am fethu prawf cyffuriau.
Fe ddechreuodd Rhys Williams ei dymor drwy guro ras ym Mhencampwriaeth Rhanbarthol Athletau Cymru ym Mharc Spytty, Casnewydd.
Dyma'r tro cyntaf i gyn bencampwr Ewrop yn y ras 400m dros y clwydi rasio ers 11 Gorffennaf llynedd, pan fethodd brawf cyffuriau.
Er iddo gael ei wahardd am bedwar mis, fe wnaeth yr awdurdodau gydnabod bod Williams wedi methu'r prawf ar ôl cymryd sylwedd oedd wedi ei heintio, ac nad oedd wedi bwriadu twyllo.
'Mwy penderfynol'
Cyn rasio yn y ras 400m dros y clwydi, dywedodd Williams ei fod yn methu aros i gystadlu unwaith eto.
"Dw i wedi rhoi'r holl beth y tu ôl i mi erbyn hyn, a dwi'n methu disgwyl i fod yn ôl ar y trac mewn sefyllfa rasio unwaith eto," meddai.
"Mae'r hyfforddiant wedi mynd yn dda ac rydw i'n canolbwyntio ar gyrraedd tîm Prydain ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn Beijing."
Ychwanegodd: "Dydw i erioed wedi bod yn fwy penderfynol i ennill fest Prydain ac mae profiadau'r flwyddyn ddiwethaf wedi fy ngwneud yn gryfach yn feddyliol.
"Dwi'n gwybod y bydd yn her enfawr i gyrraedd Beijing, ond dyna'r nod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2014