Cwest: 'Colli rheolaeth ar gar'
- Published
Clywodd cwest yn Llanelli fod myfyriwr 18 oed wedi cael ei ladd ar Fryn Alltwalis yn Sir Gaerfyrddin ar ôl colli rheolaeth ar ei gar.
Dywedodd y crwner Mark Layton fod Joshua Day, myfyriwr yng Ngholeg Gelli Aur, wedi marw yn sgil gwrthdrawiad ar y ffordd er bod dim modd dweud yn bendant beth oedd achos y ddamwain.
Yn ystod y cwest galwodd tad Joshua am wella'r ffordd yn sgîl y ddamwain ym mis Tachwedd y llynedd.
Anafu'n ddifrifol
Ar Dachwedd 12 roedd y myfyriwr yn gyrru ei gar Clio coch ar yr A485 pan gollodd reolaeth ar y cerbyd ar droad cyn pentref Alltwalis cyn taro car Fiesta oedd yn teithio i fyny'r rhiw o gyfeiriad Caerfyrddin.
Cafodd dau ffrind yn y car eu hanafu'n ddifrifol.
Clywodd y cwest dystiolaeth ysgrifenedig llygad-dystion. Dywedodd un fod yna olwg o banig ac ofn ar wyneb y myfyriwr wrth iddo golli rheolaeth ar y car tra dywedodd gyrrwr y Fiesta fod car y myfyriwr yn teithio'n gyflym iawn cyn taro ei gar yntau.
Doedd y teulu ddim am wneud sylw wrth adael y cwest.