Prifysgol yn croesawu myfyrwyr cyntaf yng nghanol Medi

Campws Image copyright Arall
Image caption Cafodd y campws ei godi ar gost o £450m

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau y bydd eu campws newydd yn croesawu'r myfyrwyr cyntaf ar 18 Medi.

Cafodd y campws ei godi ar gost o £450m.

Ar y safle 65 erw lle oedd gwaith BP Transit bydd digon o lety i 900 o fyfyrwyr, adranau academaidd, siop a sawl caffi.

Dywedodd llefarydd: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd y campws yn cyfrannu £3bn at yr economi ranbarthol o fewn 10 mlynedd."

Dywedodd y byddai mwy o ddatblygiadau tan 2020.