Agor canolfan chwaraeon dŵr £2.5m ger Cronfa Llandegfedd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru Welsh Water
Fe wnaeth Dŵr Cymru - perchnogion y safle - agor y ganolfan
Mae canolfan ymwelwyr a chwaraeon dŵr gwerth £2.5m wedi agor ger Pont-y-pŵl.
Mae'r ganolfan - ger Cronfa Llandegfedd - yn cynnig cyfleoedd i hwylfyrddio, rhwyfo dingi, canŵio a cheufadu.
Bydd pump o swyddi llawn amser yn cael eu creu, yn ogystal â 15 swydd dymhorol.
Mae gobaith y bydd degau ar filoedd o ymwelwyr yn defnyddio'r cyfleusterau bob blwyddyn,
Fe gafodd y ganolfan ei hagor gan berchnogion y safle, Dŵr Cymru.
Mae'r llyn yn cynnig mwy na chwe milltir o lwybrau cyhoeddus, hefyd.