Torri record cyflymder: Trio eto ddydd Sul

Jet reaction Image copyright Jet reaction

Wedi trafferthion ddydd Sadwrn, mae criw yn ceisio torri record cyflymder y DU ar feic jet ar draeth yn Sir Gâr ddydd Sul.

Mae'r criw yn ceisio cyrraedd cyflymder o 400mya er mwyn torri record cyflymder cerbyd dwy olwyn y DU.

Mae Jet Reaction yn cynnal profion ar draeth Pentywyn cyn mynd am y record byd yn yr Unol Daleithiau ym mis Medi.

Fe gafodd y beic - sydd ag injan dyrbin hofrennydd - ei adeiladu gan beiriannydd o Rydychen, Richard Brown.

Mae'n gobeithio curo record Rocky Robinson yn 2010, sef 376mya.

Fe gostiodd y beic £100,000, a chafodd ei adeiladu dros gyfnod o bedair blynedd.

Ddydd Sul, fe gyhoeddodd tîm Jet Reaction neges ar Twitter yn dweud eu bod nhw'n gobeithio am amodau gwell.

Image copyright Twitter

Straeon perthnasol