Les Mis: Chwilio am Cosette Fach

  • Cyhoeddwyd
Cast cyfan
Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na 130 o bobl ifanc yn rhan o'r cast

Ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun, fe wnaeth criw cynhyrchu Les Miserables - sy'n cael ei lwyfannu fis Hydref i ddathlu deng mlynedd ers agor Canolfan Mileniwm Cymru - estyn gwahoddiad i ferched rhwng blynyddoedd 4 a 6 ledled Cymru, i wneud cais i chwarae rhan Cosette Fach yn y cynhyrchiad.

Eisoes, mae 'na 10 o bobl ifanc wedi eu dewis i chwarae'r prif rannau, ac mae 130 o bobl ifanc yn rhan o'r cast.

Nawr, wedi i'r tîm cynhyrchu - sy'n cynnwys Cefin a Rhian Roberts, a Carys Edwards - fethu â dod o hyd i ferch oedd yn edrych yn ddigon ifanc i chwarae rhan Cosette Fach, maen nhw'n chwilio eto.

Fe gyhoeddodd yr is-gyfarwyddwr, Carys Edwards, fod rhan y bachgen bach yn y sioe, Gavroche, wedi ei rannu rhwng Tomi Llywelyn o Frynrefail, ac Osian Morgan o Gaerdydd.

Er mwyn gwneud cais am y rhan, fe fydd rhaid i'r merched anfon linc fideo ohonyn nhw'n canu drwy ffurflen gais ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru.

Yna, bydd clyweliadau'n cael eu cynnal ddiwedd Mehefin.

Mae'r cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu rhwng 29-31 Hydref.

Am ragor o straeon am Eisteddfod yr Urdd, y diweddara' o'r maes ac orielau di-ri, cliciwch yma.

Disgrifiad o’r llun,
Mae is-gyfarwyddwr y sioe, Carys Edwards, yn "edrych ymlaen i roi cyfle gwych" i berfformwraig ifanc