Prynu fferm er mwyn diogelu planhigyn prin
- Published
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi prynu fferm arfordirol a darn o dir wrth gopa Pen y Gogarth ger Llandudno - a hynny er mwyn gwarchod safle sydd o bwys botanegol.
Fe aeth Fferm y Parc ar werth ym mis Ebrill, ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i'w phrynu, diolch yn rhannol i arian o gronfa £600,000 o ymgyrch Neptune yr elusen.
Roedd pryder ymhlith rhai y gallai'r tir fod wedi ei addasu a'i droi yn gwrs golff. Roedd yna gwrs golff ar y llecyn cyn yr Ail Ryfel Byd.
Yn ogystal â phrynu 145 acer o dir, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nawr yr hawl i bori anifeiliaid ar 720 o aceri yn yr ardal.
Planhigyn prin
Dywed yr elusen bod nifer yn ystyried Pen y Gogarth fel un o'r pum safle pwysicaf ym Mhrydain o safbwynt botanegol.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Justin Albert: "Mae'r safle yn gartref i cotoneaster gwyllt nad yw'n bodoli yn unman arall yn y byd, sy'n golygu ei fod yn brinnach na Lili'r Wyddfa.
"Yn ogystal, mae dwy isrywogaeth unigryw o ieir bach yr haf; glöyn llwyd Thyone a'r Glesyn Serennog sydd ddim ond yn byw ar y Gogarth, ac mae ei eangderau calchfaen yn gartref i nifer o blanhigion ac infertebratau sydd mewn sefyllfa fregus yn genedlaethol, yn ogystal ag adar prin fel y frân goesgoch," meddai.
"Mae'r tir yn awr yn ddiogel rhag datblygiadau ansensitif, ond mae llawer o blanhigion a phryfed prin y Gogarth yn dal mewn perygl, ac mae angen gweithredu ar frys i ddiogelu eu dyfodol.
"Ein blaenoriaeth absoliwt wrth ymgymryd â'r safle gwych hwn yw rhoi trefn bori gadwraethol benodol ar waith i sicrhau goroesiad y rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn."