Beic cwad yn taro bachgen saith oed ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Telelkebir am 18:05 nos Fawrth
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i feic cwad daro bachgen saith oed ym Mhontypridd nos Fawrth.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Telelkebir am 18:05.
Fe gafodd y bachgen ei hedfan i Ysbyty Treforys wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol, ond dywed iddo fod mewn cyflwr sefydlog bellach.
Cafodd y dyn 20 oed oedd yn gyrru'r beic cwad ei arestio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Fe gafodd y ffordd am gyfnod, ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw dystion eu ffonio ar 101.