Daeargryn bychan yn taro gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae yna ddaeargryn bychan wedi taro gogledd-orllewin Cymru ddydd Mawrth.
Dywed y corff sy'n gyfrifol am fesur digwyddiadau o'r fath, Arolwg Daearegol Prydain, fod y daeargryn yn mesur 3.0 a bod y canolbwynt yn ardal Maes Awyr Caernarfon.
Roedd y daeargryn am 16:41.
Yn ôl Sue Hall o Cadair View Lodge, Trawsfynydd, roedd yna fwy o sŵn nag o symud, a dyna wnaeth dynnu ei sylw.
"Fe redais allan i weld a oedd unrhyw un arall wedi gweld neu ei glywed. Fe wnaeth o godi braw," meddai.
Taranau
Dywedodd tyst arall, Margaret Price, Clerc Cyngor Cymuned Gwalchmai, iddi glywed sŵn yn debyg i daranau.
"Fe wnaeth o bara dwy neu dair eiliad. Do'n i ddim yn meddwl mai daeargryn oedd o," meddai.
"Wnaeth yna ddim byd symud yn y tŷ. Rydan ni wedi arfer gyda sŵn o'r chwarel leol, ond doedd o ddim yn teimlo dim byd tebyg i hynny.
"O'n ni ddim yn sylwi bod yna ddaeargryn wedi bod tan i fy nai ddweud bod yr hanes i gyd ar Facebook."