Jonathan Davies i fethu Cwpan Rygbi'r Byd

Jonathan Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'r Davies wedi ennill 48 o gapiau rhyngwladol

Bydd canolwr Cymru Jonathan Davies yn methu Cwpan Rygbi'r Byd yn yr hydref oherwydd anaf i'w ben-glin.

Fe wnaeth Davies, 27 oed, dorri ligament yn ei goes wrth chwarae i'w glwb Clermont Auvergne yn erbyn Montpellier ddydd Sadwrn.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y bydd yn cael llawdriniaeth yn y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl na fydd Davies, sydd wedi ennill 48 o gapiau rhyngwladol, yn ymddangos eto am chwech i saith mis.

Dywedodd brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Mae hi'n siom i Jonathan ac i ni, ond y cyngor yw iddo i gael llawdriniaeth yn syth.

"Yn amlwg, mae'r anaf yn golygu na fydd ar gael ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, ond ein ffocws yw ei yrfa tymor hir, ac fe fyddwn ni'n gweithio'n agos gydag ef yn ystod ei wellhad yn edrych tuag at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2016."

Mae Davies wedi bod yn ddewis cyntaf i Gymru yng nghanol cae gyda Jamie Roberts, ond gallai ei anaf gyflwyno cyfle i ganolwr y Scarlets, Scott Williams.

Fe fydd Gatland yn enwi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd fis nesaf, cyn i'r tîm deithio i'r Swistir, Gwlad Pwyl a Qatar i baratoi.

Bydd gêm agoriadol y gystadleuaeth i'r Cymry yn erbyn Uruguay ar 20 Medi.