Damwain ffair Y Bermo: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth mewn ambiwlans
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty oherwydd damwain yn y ffair ar y prom yn Y Bermo ddydd Mercher.
Yn ôl Gwylwyr y Glannau Caergybi, cafodd y dyn ei daro gan reid.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael eu galw tua 10:15.
Fe gafodd hofrennydd ei anfon ond fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth mewn ambiwlans cyffredin.
Does dim rhagor o fanylion ynglŷn â chyflwr y dyn ar hyn o bryd.