'Chydig o Jinx?
- Cyhoeddwyd

Mae hi'n wythnos dyngedfennol i Jinx (Mark Flanagan), un o gymeriadau lliwgar Cwmderi. Faint wyddoch chi am ei hanes ar 'Pobol y Cwm'? Rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw. Mae'r atebion ar waelod y dudalen:
1. Pa ffaith annisgwyl ddaeth i'r amlwg yn ystod priodas Jinx a Ffion?
(a) Datgelodd Ffion ei bod yn feichiog
(b) Mi wnaeth Jinx gyfaddef ei fod yn briod yn barod
(c) Fe ddaeth hi i'r amlwg bod Jinx yn gefnder i Ffion
2. Pwy ydy tad biolegol Arwen?
(a) Hywel
(b) Macs
(c) Eifion
3. Beth yw perthynas y gŵr barfog â Jinx?
(a) Ei daid
(b) Ei ewythr
(c) Ei dad
4. Gyda phwy mae Ffion a Jinx yn flin am ddamwain Arwen?
(a) Cadno
(b) Elliw
(c) Britt
5. Pwy enillodd gystadleuaeth 'Cogydd y Cwm'?
(a) Dai 'Sgaffalde'
(b) Garry Monk
(c) Jim Probert
6. Beth sydd yn y bag?
(a) Arian sydd wedi ei ddwyn
(b) Dilledyn i fabi
(c) Anrheg Nadolig i Gethin
7. I godi arian at ba achos da y penderfynodd Jinxfod yn berfformiwr stryd?
(a) Y gegin gawl
(b) Y trip Ysgol Sul
(c) Elusen ganser i helpu Meic
8. Daeth Jinx o hyd i lythyr di-enw cas ym mhram Arwen. Pwy oedd awdur y llythyrau a pham y cawson nhw eu hanfon?
(a) Gethin, gan ei fod yn genfigennus o berthynas Jinx a Ffion
(b) Britt, am ei bod yn teimlo bod Jinx wedi ei phechu mewn eitem radio ar Cwm FM
(c) Garry Monk, gan bod Jinx mewn dyled iddo
9. Yn nhŷ pwy y daeth Ffion o hyd i Jinx ac Arwen?
(a) Anita
(b) Val
(c) Diane
Atebion
1 (c) Mae Jinx yn gefnder i Ffion
2 (b) Macs
3 (a) Ei daid
4 (c) Britt
5 (c) Jim Probert
6 (b) Dilledyn i fabi
7 (a) Y gegin gawl
8 (b) Britt
9 (b) Val
Faint gawsoch chi'n gywir?
0-2 Mae na Jinx arnoch chi!
3-5 Dych chi'n treulio mwy o amser yn Y Queen Vic nac yn y Deri Arms!
6-7 Selogion Cwm FM
8 Mi 'naethoch chi golli pennod rhywbryd!
9 Dych chi'n byw ac yn bod yng Nghwmderi!