Ymchwilio i hanes heddychwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect newydd fydd yn ceisio ymchwilio i hanesion rhai o filwyr Cymru fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a heddychwyr y wlad wedi ei gyhoeddi ar faes yr Eisteddfod.
Mae cynllun 'Cymru dros Heddwch', sydd werth £1.4 miliwn, yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Gyda chymorth tua 500 o wirfoddolwyr, bwriad y cynllun yw gweithio gydag ysgolion ac yn y gymuned i goffau straeon y milwyr ac edrych ar hanes heddychwyr yng Nghymru.
Bydd amryw o arddangosfeydd a digwyddiadau yn cael eu cynnal ar ddiwedd y prosiect, er mwyn "ceisio ysbrydoli pobl ifanc i drafod sut y gellir cyflawni heddwch heddiw".
'Cwestiwn canolog'
Dywedodd Jane Harries, Cydlynydd Dysgu y prosiect, bod cynllun Cymru dros Heddwch yn "gofyn y cwestiwn canolog: yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cynta', be' mae Cymru wedi ei wneud i geisio heddwch?"
Ychwanegodd ei fod yn amser da i "ofyn y cwestiwn am ble ydyn ni ynglŷn â rhyfel a heddwch nawr?"
"Mae gwahanol agweddau i'r prosiect, ymchwilio i mewn i hanesion y bobl ifanc fu farw, ac edrych ar effaith y rhyfel ar wahanol ardaloedd o Gymru, a cheisio dod i'r amlwg yr hanesion am heddychwyr y ganrif ddiwethaf hyd at nawr, a gofyn cwestiynau am heddwch a rhyfel a ble mae Cymru yn sefyll nawr?
"Bydd arddangosfeydd teithiol yn mynd o amgylch Cymru gan gynnwys amgueddfeydd, ond bydd digwyddiadau hefyd, a chyfle i bobl ddadlau a dweud eu barn, bydd cystadlaethau i ysgolion, deunyddiau i ysgolion, felly bydd llawer iawn o bethau'n digwydd."