Cabinet i drafod cynlluniau addysg ar gyfer Y Bala
- Cyhoeddwyd

Parhau mae'r anghydweld rhwng rhai o swyddogion Gwynedd a llywodraethwyr yn ardal y Bala ynglŷn â pha ddylanwad, os o gwbl, y dylai'r Eglwys yng Nghymru gael mewn ysgol newydd arfaethedig.
Fe fydd Cabinet Gwynedd yn penderfynu ddydd Mawrth a ddylid bwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau tair ysgol leol a chreu un ysgol i blant 3-19 oed, ar gost o £9.27 miliwn, ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Mae adroddiad gan swyddogion yn awgrymu ei bod yn bosib bod camddealltwriaeth wedi bod o blith rhai pobl sy'n gwrthwynebu'r syniad o ddynodi'r ysgol newydd yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru.
Ond dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Y Berwyn, Gwion Lynch, nad ydynt fel corff wedi camddeall y sefyllfa, a'u bod yn "gwrthwynebu o ran egwyddor" y syniad bod unrhyw gorff allanol yn cael dylanwad ar reolaeth ysgol newydd.
Yn ôl y cynigion, fe fyddai gan yr Eglwys yng Nghymru bedwar neu bump o lywodraethwyr ar fwrdd llywodraethol y sefydliad newydd.
Statws
Dywedodd swyddogion Gwynedd mai lleiafrif fyddai hynny, a llai na chwarter yr holl fwrdd.
Mae adroddiad fydd yn mynd gerbron aelodau'r cabinet yn awgrymu ei bod yn bosib bod rhai wedi camddeall beth fyddai rôl yr eglwys.
Dywed yr adroddiad mai statws cyfreithiol "Gwirfoddol a Reolir" sy'n cael ei gynnig ar gyfer yr ysgol newydd, a bod hynny yn statws "tipyn gwannach na'r statws Gwirfoddol a Gynorthwyir".
"Fe fyddai'r ysgol yn cael ei reoli gan brifathro a'r llywodraethwyr mewn cydweithrediad gyda Cyngor Gwynedd, fel sy'n digwydd mewn ysgolion cymunedol," meddai'r adroddiad.
Ond yn ôl Mr Lynch roedd y llywodraethwyr "yn deall yn iawn y gwahaniaeth rhwng un fersiwn caeth ac un arall llai caeth".
Ychwanegodd: "Rydym ni'n yn gwrthwynebu rhoi grym fel hyn i unrhyw gorff o'r tu allan, unrhyw enwad, mae'n fater o egwyddor."
Yn ogystal â chau Ysgol Uwchradd Y Berwyn, byddai'r cynllun gerbron y cabinet yn golygu cau ysgolion cynradd Bro Tegid a Beuno Sant.
Mae Ysgol Beuno Sant wedi ei dynodi fel ysgol yr Eglwys yng Nghymru - statws Gwirfoddol a Gynorthwyir, tra bo'r ddwy ysgol arall yn cael eu dynodi yn ysgolion cymunedol.
Traddodiad Anghydffurfiol
Yn ôl adroddiad gan swyddogion, roedd 38 o bobl wedi mynegi gwrthwynebiad i'r syniad o ddynodi'r ysgol newydd fel ysgol eglwysig.
Byddai hynny'n golygu mai'r eglwys fyddai'n berchen ar adeiladau'r ysgol tra mai'r cyngor fyddai'n berchen ar y tir.
Mae'r cyngor wedi derbyn ymateb gan 116 o bobl oedd yn gefnogol i'r cynigion.
Mae adroddiad swyddogion Gwynedd hefyd yn ymateb i rai pryderon am "ddelwedd Seisnig" yr eglwys a dylanwad hyn mewn ardal o Anghydffurfiaeth.
"Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi datgan eu bod yn gwbl ymwybodol ac yn parchu hanes yr ardal ac yn awyddus i sicrhau bod y campws newydd yn adlewyrchu hanes a thraddodiadau'r ardal," meddai'r adroddiad.
Pe bai'r cynghorwyr yn pleidleisio o blaid y cynllun, y cam nesa fyddai cynnal cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus cyn dod i benderfyniad terfynol ym mis Medi.
Mae'n bosib y byddai'r gwaith o godi ysgol newydd yn dechrau yn gynnar yn 2016 gyda'r campws yn agor yn Medi 2018.