Dynes wedi marw ar ôl syrthio ar fynydd Tryfan
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r ddynes tra'n cerdded ar fynydd Tryfan yn Eryri
Mae dynes 70 oed wedi marw ar ôl syrthio dros 30 troedfedd ar fynydd Tryfan yn Eryri ddydd Mercher.
Roedd ei phartner wedi llwyddo i ddod lawr y mynydd gyda man anafiadau ond mewn cyflwr dryslyd.
Fe lwyddodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen i ddod o hyd i'w chorff ar lwybr ar ochr ogleddol y mynydd.
Roedd y ddynes yn un o chwech mewn grŵp teuluol o ganolbarth a de ddwyrain Lloegr ac o wahanol oedrannau rhwng 30au a 70au.
Penderfynodd y grŵp rannu'n ddau, oherwydd nad oedd y cwpl oedrannus yn credu y byddant yn gallu cwblhau'r llwybr dan sylw i gyrraedd copa'r mynydd.