Tân ar fferm yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân yn mynd i'r afael â thân mawr ar fferm yn Sir y Fflint.
Cychwynnodd y tân mewn storfa silwair ar y fferm yn Lôn Allt Goch, ger Llaneurgain, ychydig cyn 18:00.
Mae nifer o deiars sy'n cael eu defnyddio yn y storfa hefyd ar dân.
Mae rhwng 30-35 o ddiffoddwyr tân yn taclo'r fflamau, gan gynnwys criwiau o Fflint, Glannau Dyfrdwy, Yr Wyddgrug a Wrecsam.
Yn ogystal mae swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru wedi eu galw i'r safle i roi cymorth i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac i asesu effaith posib y digwyddiad ar yr amgylchedd.
Nid oes unrhyw un wedi derbyn anafiadau ac mae'r tân yn parhau i losgi.