Rhybudd cynghorau am gasglu trethi

Arian

Mae pryder y gallai bwriad Llywodraeth Cymru i ad-drefnu llywodraeth leol effeithio ar y modd y bydd trethi newydd sydd ar fin cael eu datganoli yn cael eu casglu yng Nghymru.

Y bwriad yw datganoli'r hawl i godi treth tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir -yr hen dreth stamp erbyn mis Ebrill 2018.

Ond mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru yn dweud fod o broses o ad-drefnu yn gwneud hynny'n anodd.

A nawr mae'n bosib y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau i gasglu'r trethi tan fod cynghorau, neu gorff arall, fod yn barod i wneud hynny.

Dywedodd pwyllgor cyllid y cynulliad eu bod "wedi siomi" gyda'r sefyllfa, gan alw am "gynllun graddol".

'Diffyg manylion'

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai cynghorau oedd yn y "sefyllfa orau" i gasglu a rheoli trethi wedi eu datganoli.

Ond, mi wnaethon nhw rybuddio "bod peth ansicrwydd" am y broses o uno cynghorau a newid ffiniau gan ei "gwneud hi'n anodd iawn i gytuno i unrhyw gyfrifoldebau newydd o 2018 ymlaen."

Wrth gyhoeddi'r adroddiad ddydd Iau, dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Jocelyn Davies, nad oedden nhw'n gallu "rhoi safbwynt bendant" ynglŷn â phwy ddylai gasglu trethi Cymru, oherwydd diffyg manylion ariannol.

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio y bydd arbenigedd llywodraeth leol yn cael ei ddefnyddio yn y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod system dreth integredig yn cael ei datblygu yng Nghymru."

Dywedodd llywodraeth Cymru y byddai Mesur Casglu a Rheoli Trethi yn cael ei gyhoeddi cyn yr haf, a bydd mwy o fanylion ariannol yn cael eu rhoi bryd hynny.

Straeon perthnasol