Digwyddiadau dydd Iau ar faes Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod y cadeirio yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili, Elis Dafydd o Drefor ger Caernarfon oedd yn fuddugol.
Dywedodd y beirniaid bod gan Elis, oedd wedi trafod refferendwm yr Alban yn ei waith, "glust dda am rythm cerdd rydd" a bod ei waith "yn syml ac yn ddiymdrech".
Mae Elis yn ennill cadair fodern gafodd ei dylunio gan Paul Hogg.
Hefyd ar y maes cafodd Gareth F Williams wobr Tir na n-Og am y chweched tro, a hynny am ei nofel, Y Gêm.
Mae'r nofel wedi ei disgrifio fel stori am "gyfeillgarwch a chariad, am hiraeth, ac am ffolineb dyn".
Roedd y diwrnod hefyd yn un cofiadwy i Dilwyn Price, gafodd gydnabyddiaeth am 40 mlynedd o waith gwirfoddol gyda'r Urdd.
Dywedodd ei fod yn "rhywbeth fyddai rhywun yn breuddwydio amdano" a'i fod yn "hynod, hynod o falch".
Fore Iau, fe wnaeth cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan Llyn gyhoeddi y byddai cwrs Anturdd i'r Eithaf yn cael ei chynnig am y tro cyntaf, i bobl ifanc gael profi "gwaith awyr agored go iawn".
Am fwy o straeon a holl luniau'r dydd, ewch i'n tudalen Eisteddfod.