£2.25m i ganolfan ymchwil iechyd

  • Cyhoeddwyd
rhedegFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,
Amcanion y fenter ydi rhoi dechrau iach i blant a gwella ansawdd bywydau pobl

Fe fydd canolfan genedlaethol i wella iechyd a lles yn cael ei sefydlu gyda chymorth cyllid o £2.25m.

Prifysgolion Bangor, Abertawe a Chaerdydd fydd yn arwain yr ymchwil i feysydd megis gweithgareddau corfforol, arthritis, asthma, haint ac anafiadau.

Amcanion y fenter ydi rhoi dechrau iach i blant a gwella ansawdd bywydau pobl.

Fe fydd y cynllun yn cael ei ariannu gan gorff Llywodraeth Cymru, Iechyd ac Ymchwil Gofal Cymru.