Gwobr beirianyddol i gwch achub myfyrwyr
- Cyhoeddwyd

Mae cwch achub gafodd ei gynllunio gan fyfyrwyr o Gymru wedi cael ei anrhydeddu fel eicon peirianegol - sy'n ei gwneud yn gyfartal â Concorde a Tower Bridge yn Llundain.
Fe gafodd y cwch gwynt anhyblyg (RIB) ei gynllunio gan fyfyrwyr o Goleg yr Iwerydd UWC ym Mro Morgannwg yn y 1960au cynnar.
Y math yma o gwch sydd fwyaf poblogaidd fel cwch achub drwy'r byd.
Mae'r cwch wedi ennill Gwobr Treftadaeth Peirianneg gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.
Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys car Jaguar Type E, yr awyren Concorde a'r peiriant dadgriptio Enigma Alan Turing.
Mae'r cwch gwreiddiol o'r enw 'Naomi' wedi cael ei hadfer yn llwyr ac fe'i disgrifiwyd gan y pwyllgor dyfarnu fel "enghraifft peirianneg bwysig iawn".
Dywedodd pennaeth Coleg yr Iwerydd, John Walmsley: "Mae'n anrhydedd mawr bod prosiect a arloeswyd gan ein myfyrwyr wedi ennill y fath wobr o ystyried pwy yw'r enillwyr blaenorol.
"Byddwn yn derbyn plac coch fydd yn cael ei arddangos ar y tŷ lan môr ger Naomi."
Rhoddwyd y wobr er anrhydedd am y dyluniad ac yr adeiladwaith tu ôl i'r cwch, yn ogystal ag y rhodd i'r RNLI "am yr arbediadau dyngarol i fywydau pobl yn fyd-eang".
Ysgol breswyl arfordirol ar gyfer myfyrwyr o bob cwr o'r byd yw Coleg yr Iwerydd, gafodd ei sefydlu yn 1962 yng Nghastell Sain Dunwyd ger Llanilltud Fawr.