Hoff Le: Rhagor o'ch lluniau chi
- Cyhoeddwyd
Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhannu lluniau o'u hoff lefydd gyda BBC Cymru Fyw yn ystod y misoedd diwethaf. Cofiwch bod 'na gyfle eto i ychwanegu eich Hoff Le chi at y casgliad arbennig yma trwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk neu ddefnyddio #HoffLe. Mae manylion llawn sut i gysylltu ar y dudalen yma.
Yn y cyfamser, mwynhewch ddetholiad arall o'r lluniau gorau sydd wedi ein cyrraedd.
Meddai Debora: "Mae emosiwn mawr gyda fi bob tro fy mod i'n hedfan o Rufain i Fryste a rentu car i gyrraedd Cymru. Pan mae'r bont hon yn nesáu mae dagrau yn dechrau rhedeg dros fy ngruddiau gan fy mod i mor hapus i gael dod i Gymru unwaith eto. Rwyf yn teimlo fel fy mod i wedi dod yn ôl adref. ('Does dim perthnasau 'da fi yn Nghymru a ches i fy ngeni yn yr Eidal!) Mae'n anhygoel pa mor fawr yw fy nghariad i'r wlad yma!"